EurwenOWENGallt-y-Celyn, Pentrefoelas.
Dymuna Alun, Marian, Menna a'u teuluoedd ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth.
Diolch am y geiriau caredig trwy lythyrau, cardiau, galwadau ffôn, negeseuon testun ac ymweliadau a fu o gysur mawr i ni fel teulu.
Diolchwn yn fawr iawn am y rhoddion a dderbyniwyd er cof am Mam tuag at Nyrsus Cymunedol yr ardal.
Diolch hefyd i bawb a fu o gymorth ddydd yr angladd, yn arbennig i Peredur Roberts a'i deulu am y trefniadau trylwyr cyn ac ar y diwrnod.
Gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Eurwen